buy the book from amazon

Flag    Amazon UK



Browse Similar Books at Amazon
Literature & Fiction->Classics
Mystery, Thriller & Suspense->Thrillers & Suspense->Historical


Description
(A classic adventure novel in Welsh set on Anglesey during the early eighteenth century) Sir Fôn, y ddeunawfed ganrif. Mae'r grŵp o ladron penffordd yn ymosod ar yr Yswain ifanc Morys William a dwyn swm nid bach o arian oddi arno. Caiffwybod mai pennaeth y lladron lleol yw Madam Wen, cymeriad y mae dirgelwch yn ei chanlyn i bobman. Yn y cyfamser, wrth ymweld ag ystâd y Penrhyn mae Morys yn cwrdd ag Einir Wyn, merch brydferth sydd wedi tyngu llw y bydd yn adennill y tiroedd a ddygwyd oddi ar ei thad.Pwy yw Madam Wen? Menyw, neu ddrychiolaeth? Lleidr, neu arwres? Person o gig a gwaed, neu'n ddim byd ond sibrwd ar goll yn sŵn y tonnau?Nofel W. D. Owen am ladron penffordd, dirgelwch, cleddyfa, smyglwyr, gwisgoedd ffug, Jacobiniaid, môr-ladron a serch yw nofel antur Gymraeg orau ei oes ac yn Madam Wen ei hun cawn un o gymeriadau mwyaf hynaws llenyddiaeth Gymraeg. Addaswyd y nofel yn ffilm ar S4C yn 1982. Mae'r argraffiad newydd hwn, y cyntaf ers 99 o flynyddoedd, yn cyflwyno'r antur i ddarllenwyr o'r newydd mewn orgraff ddiwygiedig.
CERTAIN CONTENT THAT APPEARS ON THIS PAGE COMES FROM AMAZON. THIS CONTENT IS PROVIDED ‘AS IS’ AND IS SUBJECT TO CHANGE OR REMOVAL AT ANY TIME.