Description
Mae Pam? yn dilyn tri ffrind wrth iddynt adael coleg a dechrau gwneud eu ffordd yn y byd yn y ddegawd gythryblus a chyffrous sy'n arwain at sefydlu Cynulliad i Gymru. Mae'r tri yn rhannu'r un pen-blwydd, ond yn rhannu cyfrinach hefyd. Cyfrinach sy'n bygwth dinistrio pob un ohonynt.